Ymateb gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i gais gwybodaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Dyddiad cyflwyno: 5 Gorffennaf 2018

 

1.   Cefndir

Darparwyd yr wybodaeth hon ar gyfer ymgynghori ar ymagweddau lleol at leihau tlodi: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus - mis Hydref 2017.

Yn dilyn cyflwyniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC) yn y sesiwn dystiolaeth ar 7 Mehefin 2018, gofynnodd y pwyllgor am fwy o wybodaeth am y berthynas rhwng BGC Abertawe a'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

BGC Abertawe a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin

Ffurfiwyd BGC Abertawe'n unol âgofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin yn unol âgofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol  a Llesiant. Pennodd deddfwriaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ymagwedd newydd at weithio mewn partneriaeth a pherthnasoedd a arweiniodd at sefydlu BGC Abertawe.  Oherwydd deddfwriaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hwyluswyd sefydlu Fforwm Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, a sefydlwyd yn wreiddiol fel rhywbeth anstatudol yn 2013 i'w drawsnewid i Raglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin yn chwarae rôl allweddol wrth ddod âphartneriaid ynghyd i bennu lle bydd darpariaeth integredig o wasanaethau, gofal a chefnogaeth o'r budd mwyaf i bobl yn y rhanbarth o ran y canlynol: pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau tymor hir, gan gynnwys dementia, pobl ag anableddau dysgu, gofalwyr a phlant ag anghenion cymhleth.  Gwnaeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ehangu'r cylch gorchwyl hwn hefyd i ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer y grwpiau gofal hyn.  Mae hyn yn cyd-fynd ârôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth asesu lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach a thrwy weithio ar y cyd i gyflawni gwelliant mewn lles lleol drwy ddefnyddio'r pum ffordd o weithio i fwyafu cyfraniad at y nodau llesiant cenedlaethol.

Mae pob corff yn gweithredu'n ymreolus ac mae nifer o feysydd sy'n gorgyffwrdd, yn arbennig gan fod y BPRh wedi ehangu ei ffocws o ddarparu gofal integredig i ymyrryd ac atal yn gynnar.

      Mae gan bob corff llywodraethu gyfrifoldebau penodol a diffiniedig gyda ffiniau daearyddol penodol ond gyda rôl ehangach ar gyfer y BPRh mae ardaloedd sylweddol sy'n gorgyffwrdd mewn ffrydiau gwaith â'r BGC.  Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'n adlewyrchu ôl troed yr awdurdod lleol sy'n gwasanaethu 245,000 o breswylwyr. Ar hyn o bryd, mae Bae'r Gorllewin yn gweithio ar draws ffiniau tri BGC sy'n cynnwys partneriaid amrywiol ac yn diwallu anghenion tair cymuned benodol sy'n cynnwys 529,000 o bobl.  Bydd symud CBS Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o 1 Ebrill 2019 yn golygu ad-drefnu sylweddol a bydd y ffocws yn lleihau i ddwy ardal awdurdod lleol yn unig, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sy'n cynnwys 386,000 o bobl.

Bydd yr ad-drefnu uchod yn gyfle am fwy o gydweithrediad, gweithio ar y cyd ac integreiddio rhwng y ddau fwrdd (ynghyd âBGC CNPT). Er bod y ddau gorff yn rhannu'r uchelgais am integreiddio gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd ag atal ac ymyrryd yn gynnar, bydd yn rhaid i hwn fod yn brif ffocws ar gyfer y ddau fwrdd y flwyddyn nesaf. Dyma amcanion Lles Lleol y BGC: Y Blynyddoedd Cynnar;  Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda; Gweithio gyda Natur, Cymunedau Cryf a Rhannu ar gyfer Abertawe'n creu'r amodau ar gyfer meysydd blaenoriaeth allweddol Cynllun Ardal pum mlynedd Bae'r Gorllewin ar gyfer gweithio integredig, atal ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer: Pobl Hŷn; Plant a Phobl Ifanc; Iechyd Meddwl; Anabledd Dysgu ac Awtistiaeth; Gofalwyr (mae hon yn thema drawsbynciol).  Mae llawer o gorgyffwrdd rhwng rhaglenni gwaith y BPRh a'r BGC a bydd y trefniadau llywodraethu diwygiedig oherwydd newid ffiniau Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi'r cyfle i ni symleiddio hyn.

Mae Cynllun Ardal Bae'r Gorllewin yn pennu sut bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ymateb i ganfyddiadau Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin. Ymdrinnir âchasgliadau'r asesiad hwn gan bartneriaid fel rhan o'u busnes craidd yn lleol neu gan bartneriaethau presennol rhwng sefydliadau ar draws y rhanbarth. Mae Cynllun Ardal Bae'r Gorllewin yn canolbwyntio ar flaenoriaethau rhanbarthol, sy'n sail i Raglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin ac sydd wedi'u nodi fel y meysydd gwaith a fydd yn ychwanegu gwerth.

Cyflwynwyd ymateb i'r ymgynghoriad ar Gynlluniau Lles y tri BGC o ran ardal Bae'r Gorllewin, gan gydnabod bod y blaenoriaethau yn y cynlluniau lles yn ymwneud yn benodol ag anghenion y boblogaeth leol, ond hefyd yn adlewyrchu'r pethau tebyg iawn ym mlaenoriaethau'r tri BGC a'r materion y mae poblogaethau'r holl awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn y rhanbarth.

Enghreifftiau o'r berthynas ar waith

Cafodd y Cynllun Lles Lleol a Chynllun Ardal Bae'r Gorllewin eu datblygu gan ystyried cynlluniau drafft ei gilydd wrth iddynt ddatblygu. Nid oeddem yn gallu elwa o gydweithredu pellach y tu hwnt i'r ymgynghoriad ond archwiliwyd cyfleoedd mewn rhai meysydd, megis y posibilrwydd o gomisiynu ar y cyd Adroddiadau Hawdd i'w Darllen - ni ddatblygwyd hyn oherwydd amser a chapasiti.

Datblygwyd yr Asesiad Poblogaeth a'r Asesiadau Lles lleol drwy ystyried ei gilydd a lle nodwyd cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Roedd hyn yn cynnwys comisiynu ymgynghoriad ar y cyd ar les a chyfuno adnoddau i fuddsoddi mewn cefnogaeth arbenigol, allanol gan adlewyrchu natur ganolog yr ymrwymiad a'r egwyddorion cyd-gynhyrchu.

 

Cyflwynwyd ymateb ar yr ymgynghoriad i'r tri Chynllun Lles lleol sy'n ymwneud ag ardal Bae'r Gorllewin, gan  gydnabod bod y blaenoriaethau yn y Cynllun Lles yn ymwneud yn benodol ag anghenion y boblogaeth leol ym mhob ardal BGC, ond hefyd adlewyrchu'r tebygrwydd mawr ym mlaenoriaethau'r BGC hyn a'r materion y mae poblogaethau'r holl awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn y rhanbarth.

Mae'r berthynas a'r synergedd posib yn y cam cyflwyno bellach yn cael eu harchwilio fel rhan o weithio rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys gwaith i nodi'r potensial am gydweithio agosach rhwng cydlynwyr Bae'r Gorllewin a'r BGC i sicrhau bod y sefydliadau'n ymwybodol o'r cyfleoedd a'r meysydd sy'n gorgyffwrdd.  Yn ogystal, mae nifer o flaenoriaethau'r BGC sy'n cael eu harwain gan bartneriaid gwahanol eisoes yn cael eu datblygu'n rhanbarthol oherwydd natur ranbarthol 3 o'r 4 partner statudol yn y BGC.

      Yn dilyn sefydlu Grŵp Iechyd a Thai ym Mwrdd Iechyd PABM, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r trydydd sector, dechreuwyd datblygu rhaglen gyfalaf strategol Bae'r Gorllewin ar gyfer iechyd, tai a gofal cymdeithasol yn 2018 gyda'r cam cychwynnol o symposiwm iechyd, tai a gofal cymdeithasol ym mis Hydref a fydd yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid i helpu i lywio a datblygu'r rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys aelodau'r BGC.